Jeremiah 24

Ffigys da a ffigys drwg

1Roedd Nebwchadnesar, brenin Babilon, wedi cymryd Jehoiachin
24:1 Jehoiachin Hebraeg, Jechoneia, oedd yn enw arall ar Jehoiachin. Roedd yn frenin am dri mis yn 598 CC cyn cael ei gymryd yn gaeth i Babilon.
fab Jehoiacim, brenin Jwda, yn gaeth i Babilon. Cymerodd y swyddogion i gyd hefyd, a'r seiri coed a'r gweithwyr metel. b A dyma'r Arglwydd yn rhoi gweledigaeth i mi. Roeddwn i'n gweld dwy fasged yn llawn o ffigys wedi eu gosod o flaen teml yr Arglwydd
2Roedd y ffigys yn un fasged yn rhai da iawn, fel ffigys wedi aeddfedu'n gynnar. Ond roedd y ffigys yn y fasged arall wedi mynd yn ddrwg, a ddim yn ffit i'w bwyta. 3Dyma'r Arglwydd yn gofyn i mi, “Beth wyt ti'n weld, Jeremeia?” A dyma fi'n ateb, “Ffigys. Mae'r rhai da yn edrych yn hyfryd, ond mae'r lleill wedi mynd yn rhy ddrwg i'w bwyta.”

4Yna dyma fi'n cael y neges yma gan yr Arglwydd: 5“Dyma dw i, yr Arglwydd, Duw Israel yn ei ddweud: ‘Mae'r ffigys da yn cynrychioli'r bobl sydd wedi eu cymryd yn gaeth i wlad y Babiloniaid. 6Dw i wedi eu hanfon nhw yno er eu lles eu hunain, a dw i'n mynd i ddod â nhw'n ôl i'r wlad yma. Bydda i'n eu hadeiladu nhw, dim eu bwrw nhw i lawr. Bydda i'n eu plannu nhw yn y tir, dim yn eu tynnu fel chwyn. 7Bydda i'n rhoi'r awydd ynddyn nhw i gydnabod mai fi ydy'r Arglwydd. Nhw fydd fy mhobl i, a fi fydd eu Duw nhw. Byddan nhw'n troi'n ôl ata i go iawn.’

8“Ond,” meddai'r Arglwydd, “mae'r ffigys drwg yn cynrychioli Sedeceia
24:8 Sedeceia yn frenin o 598 i 586 CC
brenin Jwda a'i swyddogion, a'r bobl hynny sydd wedi eu gadael ar ôl yn Jerwsalem neu sydd wedi mynd i fyw i'r Aifft. d
9Bydd beth fydd yn digwydd iddyn nhw yn dychryn pobl y gwledydd eraill i gyd. Byddan nhw'n jôc. Bydda i'n gwneud esiampl ohonyn nhw. Byddan nhw'n destun sbort, ac yn esiampl o bobl wedi eu melltithio. Dyna sut fydd hi arnyn nhw ble bynnag wna i eu gyrru nhw. 10Bydda i'n anfon rhyfel, newyn a haint i'w taro nhw nes byddan nhw wedi cael eu dinistrio'n llwyr o'r wlad rois i iddyn nhw a'u hynafiaid.”

Copyright information for CYM